Skip to content

Aelod o Dîm yr Uned Cymorth Ymchwilio

Nodwch: Mae'r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi bod.

Cyflwyniad i'r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol, a’r prif gyfrifoldeb fydd darparu cefnogaeth i Ymchwiliadau. Bydd yn gweithredu fel aelod o'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, gan ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol llawn i Reolwyr Gweithrediadau, Arweinwyr Tîmau Gweithrediadau ac Ymchwilwyr yn Caerdydd tra hefyd yn darparu cymorth gweinyddol yn genedlaethol yn ôl yr angen. 

 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaeth rheoli dogfennau o ddiweddaru a chynnal y system rheoli achosion mewn ymchwiliadau annibynnol. Bydd yn cynnal taenlenni lleol a chenedlaethol yn unol â chyfarwyddyd. Bydd hefyd yn drafftio gohebiaeth, yn monitro blychau e-bost apelau am dystion ac yn cynnal cofnodion rheoli perfformiad. Gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i’r rhai a fydd yn cysylltu ar gyfer Ymchwiliadau pan fo'n briodol, bydd yn cydgysylltu ag asiantaethau allanol a phartïon tramgwyddedig boed dros y ffôn, e-bost neu drwy’r post ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn brydlon, yn effeithlon ac yn gwrtais. 

Wrth gwblhau rhai o'r tasgau hyn, gall deiliad y swydd weld rhywfaint o ddeunydd sensitif neu ddeunydd a all beri gofid.


Cyflwyniad Swydd:

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y rhain Swyddog Gweinyddol (SG)  gyfatebol Ymddygiadau lefel yn ystod y broses ddewis:

  • Cyflawni yn Gyflym 
  • Cydweithio 


Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.

Trwy gydol y broses recriwtio byddwn hefyd yn asesu eich Profiad

Cyfrifoldeb y Rôl

Fel aelod o Dîm yr Uned Cymorth Ymchwilio, cyflawni'r rôl ganlynol mewn perthynas ag ymchwiliadau Annibynnol a Rheoledig.

  • Sicrhau bod y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn derbyn cymorth mewn perthynas â rheoli'r holl ymchwiliadau trwy gynnal tasgau ar y System Rheoli Achosion (CMS)
  • Ar y cyd â'r Ymchwilydd Arweiniol, sicrhau bod holl swyddogaethau’r Uned, mewn perthynas ag achosion Annibynnol a Rheoledig, yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlenni statudol ar CMS, yn unol â gofynion deddfwriaethol        IOPC, gan gynnal cyswllt parhaus â'r Ymchwilydd Arweiniol mewn perthynas â phob achos a ddyrannwyd trwy gydol ei oes.
  • Sicrhau bod ffeiliau achos Ymchwiliadau Annibynnol yn cael eu diweddaru yn unol â'r canllawiau.
  • Gweithredu fel aelod o'r tîm tra hefyd yn defnyddio crebwyll er mwyn adeiladu ffeiliau ar gyfer Llysoedd, Cwestau a Gwrandawiadau Disgyblu, anfon ymlaen geisiadau CPS/Llys am wybodaeth, ymdrin ag ymholiadau achosion, datgelu tystiolaeth yn unol â chyfarwyddyd yr Ymchwilydd Arweiniol, a phan geir gyfarwyddyd i wneud hynny, i bartïon â buddiant.
  • Paratoi dogfennau tystiolaeth sy'n ymwneud â ffeiliau llys i'w cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron o fewn y canllawiau penodedig, yn unol â'r safonau gofynnol, ac ar gyfarwyddyd yr Ymchwilydd Arweiniol.
  • Cynnal a diweddaru'r CMS a storio dogfennaeth o'r fath yn ddiogel yn unol â pholisïau IOPC.
  • Archifo deunydd ymchwilio mewn cydgysylltiad â'r Ymchwilydd Arweiniol mewn achosion caeedig. Sicrhau bod y deunydd a'r arddangosion a gyflwynir yn cael eu catalogio cyn eu cyflwyno i'r Archif oddi ar y safle.
  • Cynnal cronfeydd data i wasanaethu rheoli perfformiad sefydliadol.
  • Mynychu cyfarfodydd cychwynnol yn ôl yr angen ar ddechrau ymchwiliadau newydd gan hefyd fynychu sesiynau briffio ar achosion mwy cymhleth sy'n cael eu cynnal ar system HOLMES
  • Mewn perthynas ag ymchwiliadau annibynnol, copi deipio datganiadau, prawfddarllen a chofrestru dogfennaeth arall yn ôl y gofyn a phan fo angen.
  • Cynorthwyo'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau i godi gorchmynion prynu, gan ddefnyddio'r system ofynion ar-lein ar Business World (yn unol â phrosesau caffael IOPC) a chysylltu â Deiliad y Gyllideb wrth gysoni anfonebau.
  • Cynnal dyletswyddau cymorth cerbydau fflyd, gan gynnwys trefnu cerbydau fflyd mewnol trwy'r system archebu. Sicrhau bod cerbydau ar gael ar gyfer apwyntiadau a gwasanaethau MOT, gan sicrhau bod anghenion busnes yn cael eu diwallu. 
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau eraill (yn fewnol ac yn allanol), gan gynnwys archebu cyfleusterau fideogynadledda ac offer arall sydd eu hangen. Anfon gwahoddiadau ar gais ymchwilwyr.
  • Archebu trefniadau teithio staff Gweithredol. 
  • Rheoli'r system archebu offer mewn perthynas â'r offer sain cludadwy a ddefnyddir ar gyfer cyfweliadau a phecynnau PPE ar alwad.
  • Archebu deunydd ysgrifennu ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau ar sail pro rata o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.
  • Cymryd cyfrifoldeb a chynnal cofrestr archwiliadwy ar gyfer pob CD, DVD a llyfr glas mewn perthynas ag ymchwiliadau.

 

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyflawni'r dyletswyddau gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli cysylltiadau canlynol:

  • Cyhoeddi rhybuddion tystion pan gyfarwyddir hynny a monitro (ar sail cylchdro) y llinellau Apelau am Dystion Cenedlaethol.
  • Anfon llythyrau diweddaru ar gyfarwyddyd yr Ymchwilydd Arweiniol at bartïon allanol.
  • Delio ag ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd, swyddogion yr heddlu, ac unrhyw asiantaethau allanol eraill pan nad yw'r ymchwilydd yn yr achos ar gael trwy gymryd a throsglwyddo'r wybodaeth.
  • Cynorthwyo a chydgysylltu ag aelodau staff i gynnal cyfathrebu a chysylltiadau da, gyda chydweithwyr mewn swyddfeydd rhanbarthol eraill a phartïon â buddiant.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cymorth i staff ymchwilio e.e. trosglwyddo deunydd cyfryngol neu anfon deunydd at bartïon allanol. Gweithredu fel pwynt cyswllt wrth gynghori partïon allanol mewn perthynas â deunydd a anfonir ac a dderbynnir.

Canllaw yw’r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau allweddol hyn i brif gyfrifoldebau'r swydd yn unig ac nid ydynt wedi'u bwriadu i gyfyngu ar gwmpas deiliad y swydd i gyflawni dyletswyddau eraill. Gellir cytuno ar gyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer deiliad y swydd yn unigol a'u cofnodi fel rhan o ofyniad y rôl wrth adolygu perfformiad yn flynyddol.

Yr Ymgeisydd Delfrydol


Dyma’r gofynion hanfodol:

  • Lefel dda o addysg
  • Y gallu i weithio dan bwysau a blaenoriaethu tasgau, gan weithio i derfynau amser llym sy’n cystadlu â’i gilydd
  • Sylw manwl iawn i fanylion a’r gallu i weithio’n fanwl-gywir
  • Profiad sicr o weithio'n effeithiol mewn tîm
  • Profiad o ddelio â phartïon mewnol i gwblhau tasgau yn llwyddiannus
  • Hyfedredd yn y defnydd o TG, gan gynnwys Microsoft (yn benodol Word ac Excel)

 

Dyma’r gofynion dymunol:

  • Cyfarwydd â rhaglen gyfrifiadurol HOLMES 2.
  • Profiad neu ddealltwriaeth o'r heddluoedd a'r system cyfiawnder troseddol
  • Profiad teipio – o leiaf 40 i 50 gair y funud.

 

Sgiliau a Galluoedd

  • Sgiliau gweinyddol cadarn, gallu trefnu a blaenoriaethu pan fydd dan bwysau a chwblhau gwaith o fewn terfynau amser neu’n gallu negodi’r terfynau amser hyn.
  • Sgiliau sy'n briodol i'r rôl gyda'r gallu i amsugno/trefnu gwybodaeth newydd er mwyn sicrhau bod yr unigolyn wedi’i friffio’n dda ar bynciau newydd.
  • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol cryf (ysgrifenedig a llafar).
  • Blaenoriaethu i sicrhau bod amcanion allweddol y rôl yn cael eu cyflawni'n gyson.
  • Cyfforddus yn gwneud penderfyniadau o fewn fframwaith dirprwyo clir.

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i [BPSS / SC / DV]

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)


Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:

  • Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
  • Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau

Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk


Disgrifiad o'r Pecyn

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod) 
  • Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign

Er na allwn warantu contract hirach neu fwy parhaol ar hyn o bryd, os gellir ymestyn y rôl neu ei gwneud yn un barhaol, gall deiliad llwyddiannus y swydd gael cynnig y rôl yn gyntaf heb gyfweliad ychwanegol. 


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd  â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu. 


Am y cwmni

Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn. 

  • Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar. 
  • Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector. 
  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.

Rydym yn defnyddio cwcis i sichrau ein bod yn rhoi’r profiad gorau posibl i chi ar ein gwefan. Os hoffech barhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn cymryd eich bod yn hapus i dderbyn pob cwci. Dysgwch mwy