Cyflwyniad i'r Swydd
Cyflwyniad i'r Swydd:
Fel Cyfarwyddwr Pobl a Newid IOPC, cewch eich croesawu i dîm uwch reolwyr dynamig a chynhwysol a byddwch yn gyfrifol am arwain y Gyfarwyddiaeth Pobl a Newid newydd. Mae IOPC ar daith i ddatblygu ei diwylliant, ei safbwyntiau a'i hethos i gefnogi canlyniadau craidd y sefydliad a dyma eich cyfle i ymuno â byd amrywiol IOPC, a fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich meddylfryd a'ch dulliau er mwyn cyfrannu at wella system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Yn y rôl arwain allweddol hon, byddwch yn canolbwyntio ar foderneiddio IOPC trwy arwain gallu strategol sy'n canolbwyntio ar bobl, sbarduno newid diwylliannol a galluogi rhaglen drawsnewid uchelgeisiol. Bydd y rôl yn cyflwyno cyfle a her wrth i chi arwain a hyrwyddo ein gwasanaethau Pobl a Newid yn y meysydd canlynol:
- Dylunio a Datblygu Sefydliadol
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Dysgu a Datblygu Talent
- Cysylltiadau Gweithwyr a Phartneriaethau Busnes
- Iechyd a Diogelwch
- Llesiant
- Recriwtio ac Adnoddau
- Y Gyflogres, Buddion a Gwobrwyo
- Gwasanaethau Cymorth i Bobl
Y broses asesu
Cais
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant – i ddysgu mwy, cliciwch yma. Byddwn yn eich asesu yn erbyn eich Profiad ac Ymddygiadau’r Dirprwy Gyfarwyddwr neu Ymddygiadau Cyfatebol y Gwasanaeth Sifil hyn yn ystod y broses ymgeisio:
- Newid a gwella
- Arweinyddiaeth
- Rheoli gwasanaeth o safon
Cam 1
Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad (o bell) i asesu eich gwybodaeth a'ch profiad. Bydd hyn yn cynnwys:
- Profiad
- Newid a gwella
- Rheoli gwasanaeth o safon
Bydd rhagor o wybodaeth ar gyfer cam 1 yn cael ei rhannu gyda'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Cam 2
Os byddwch chi’n llwyddiannus yng ngham 1, cewch eich gwahodd i Banel Staff IOPC (o bell) a Chyfweliad a Chyflwyniad ffurfiol (yn y cnawd). Bydd hyn yn cynnwys:
- Profiad
- Cyfathrebu a dylanwadu
- Gwneud penderfyniadau effeithiol
- Newid a gwella
- Datblygu eich hunan ac eraill;
- Cryfderau
- Gwerthoedd IOPC
Cewch gyfle hefyd i gwrdd yn anffurfiol â'r rheolwr recriwtio yn ystod y cam hwn i ddod i adnabod eich gilydd, gofyn cwestiynau ac ati. Bydd rhagor o wybodaeth ar gyfer cam 2 yn cael ei rhannu gyda'r rhai sy'n llwyddiannus yng ngham 1.
Dyddiadau pwysig – gallai'r dyddiadau hyn newid
Cau'r hysbyseb: 25 Awst 2025
Rhestr hir: 28 Awst 2025
Rhestr fer: 2 Medi 2025
Cam 1: 8 neu 9 Medi, 2025
Cyfarfod anffurfiol gyda'r rheolwr recriwtio: 12 neu 15 Medi 2025
Cam 2, Panel Staff: 15 neu 18 Medi 2025
Cam 2, Cyfweliad a Chyflwyniad Ffurfiol: 16 ac 17 Medi 2025
Cyfrifoldeb y Rôl
- Arwain cyfarwyddiaeth sydd newydd ei hail-ffurfio, gan osod cyfeiriad clir a datblygu ffyrdd newydd o weithio.
- Arwain, rheoli a datblygu tîm sy'n perfformio i lefel uchel.
- Darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig sy'n hyrwyddo gwelliant parhaus a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Sicrhau cydweithredu ac integreiddio gwaith ar draws pob cyfarwyddiaeth a thîm, gan feithrin ethos 'un IOPC’.
- Rheoli cyllidebau ac adnoddau yn unol â rhaglen effeithlonrwydd a thrawsnewid heriol.
- Cyflwyno rhaglenni a mentrau Datblygu Sefydliadol i gefnogi trawsnewid a newid diwylliant.
- Arwain a chyflwyno Strategaeth Pobl IOPC.
- Cynnal rôl weithredol ar y Bwrdd Rheoli a Byrddau, Grwpiau a Phwyllgorau penodol eraill.
- Siarad, cyflwyno ac ymgysylltu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau gyda chydweithwyr a grwpiau ar draws y sefydliad, ar bob lefel.
- Meithrin cysylltiadau cynhyrchiol a phroffesiynol gydag undebau llafur a’r cyngor staff.
- Meithrin partneriaeth effeithiol gyda'r Swyddfa Gartref, Trysorlys EF a Swyddfa'r Cabinet yn ôl yr angen.
- Cynnwys cydweithwyr ar draws y sefydliad a gwrando arnynt, gofyn am farn a dod â phobl at ei gilydd i feithrin amgylchedd ar gyfer newid a thrawsnewid.
- Bod yn rhagweithiol ac ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Dangos cymhwysedd diwylliannol wrth ryngweithio â'r holl randdeiliaid.
Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd ar gyfer cyfrifoldebau rôl llawn.
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
Profiad
- Aelod Siartredig o'r CIPD.
- Uwch reolwr ac arweinydd profiadol iawn gyda phrofiad sylweddol o arwain amrywiaeth o swyddogaethau sy'n gysylltiedig â phobl yn llwyddiannus, gan gynnwys Cydraddoldebau.
- Llwyddiant amlwg wrth gyflawni newid diwylliannol sylweddol, gyda phwyslais ar rymuso staff ar bob lefel.
- Profiad amlwg o gyflwyno newid strwythurol sylweddol yn llwyddiannus.
- Tystiolaeth o adeiladu timau strategol sy'n canolbwyntio ar berfformiad uchel a galluogi rheolwyr i gyflawni nodau sefydliadol.
- Tystiolaeth o sgiliau datblygu perthynas rhagorol a phrofiad sylweddol o ymgysylltu â rhanddeiliaid lefel uwch.
- Gweithiwr tîm effeithiol gyda gallu profedig i gydbwyso blaenoriaethau corfforaethol a gweithredu ar y cyd gyda ffocws ar weithio’n llorweddol rhwng swyddogaethau.
- Profiad o weithio ar lefel bwrdd neu mewn strwythur llywodraethu tebyg a dylanwadu ar draws sefydliad.
- Dealltwriaeth gadarn o werthoedd gwasanaeth cyhoeddus, amrywiaeth ac egwyddorion bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad cryf iddynt.
- Ymwybyddiaeth o’r amgylchedd gwleidyddol ac allanol proffil uchel mae IOPC yn gweithredu ynddo, a’r gallu i weithio yn yr amgylchedd hwnnw.
- Lefel briodol o gliriad diogelwch y llywodraeth.
Sgiliau a Galluoedd
- Hunan-ymwybodol, gyda thystiolaeth o ddatblygu a dysgu trwy bob cyfle.
- Ysbrydoli, datblygu ac annog eraill i gyflawni.
- Yn gallu gweithio'n strategol ac yn weithredol.
- Gwydnwch i lywio newid trawsnewidiol.
- Ymrwymiad amlwg i gymhwysedd diwylliannol a'r gallu i fynegi arfer gorau.
Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS
National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)
Addasiadau Rhesymol:
Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir. Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:
- Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
- Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
- Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau
Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk
Disgrifiad o'r Pecyn
Yr hyn rydym yn ei Gynnig:
- 32.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl
- Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
- Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
- Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
- Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
- Cynllun Prydlesu Car
- Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
- Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl
- Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
- Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.childcarechoices.gov.uk
Ystyriaeth Emosiynol:
Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol. O ystyried natur y gwaith, y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol. Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim. Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol. Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr i ymgeisio am rolau trwy gyfrwng y Gymraeg fel eu dewis iaith.
Am y cwmni
Byddwch chi'ch hun:
Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn. Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.
- Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar.
- Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector.
- Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
- Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.