Skip to content

Partner Busnes Pobl - Absenoldeb Teuluol – Contract 12 mis

Nodwch: Mae'r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi bod.

Cyflwyniad i'r Swydd

Cyflwyniad Swydd:

Fel Partner Busnes Pobl, cewch eich croesawu i dîm dynamig a chynhwysol  Pobl a Newid gan weithio mewn partneriaeth ag uwch-reolwyr a rheolwyr llinell i feithrin perthynas waith gref a dylanwadol. Mae IOPC ar daith i ddatblygu ei diwylliant, ei safbwyntiau a'i hethos i gefnogi canlyniadau craidd y sefydliad a dyma eich cyfle i ymuno â byd amrywiol Pobl a Newid IOPC, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich meddylfryd a'ch dulliau er mwyn cyfrannu at wella system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Fel Partner Busnes Pobl, byddwch yn mabwysiadu dull rhagweithiol ac ymatebol i anghenion newidiol y busnes. Byddwch yn rhan annatod o ddeall y busnes craidd, yn defnyddio’ch crebwyll, ychwanegu gwerth, a herio'r status quo, i sicrhau bod rheolwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu hamcanion busnes. 

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid i weithredu ac ymgorffori agenda strategol Pobl ar gyfer y maes cyfrifoldeb busnes. Darparu arbenigedd o ran cysylltiadau gweithwyr/ AD i'r sefydliad a mynd i'r afael â'r holl faterion pobl cysylltiedig yn unol ag arferion gorau, cydymffurfiaeth fewnol, a gofynion cyfreithiol.

Fel Partner Busnes Pobl, byddwch yn sicrhau effeithiolrwydd gorau’r gweithlu ar draws eich maes cyfrifoldeb busnes dynodedig, trwy hyfforddi a mentora rheolwyr i reoli eu pobl. Gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr busnes i sicrhau bod nodau gweithredol yn cael eu cyflawni trwy reoli pobl yn effeithiol a sicrhau perfformiad gorau’r gweithlu trwy roi cymorth a chyngor rhagweithiol i reolwyr llinell. Byddwch yn cyflwyno'r strategaeth bobl ym maes cyfrifoldeb ac yn sicrhau bod gwaith cynllunio'r gweithlu yn cael ei wneud fel bod gan y busnes y bobl iawn gyda'r sgiliau cywir yn y swyddi cywir.

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau Lefel Gradd 7 hyn yn ystod y broses ddethol:

 

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Newid a Gwella
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant - cliciwch yma i weld rhagor.

Hefyd, byddwn yn asesu eich Profiad, Cryfderau, Sgiliau Technegol a Gwerthoedd gydol y broses recriwtio. Bydd ymddygiadau a asesir yn y cam hwn yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr sy'n cyrraedd y cam asesu. 

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi gwblhau tri chwestiwn Sifftio yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.

Rydym yn rhagweld mai dechrau mis Hydref 2025 fydd y dyddiadau asesu a chyfweld.

Cyfrifoldeb y Rôl

  • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r strategaeth bobl fel aelod o Uwch Dîm Rheoli y Gyfarwyddiaeth Pobl.
  • Mabwysiadu dull strategol o weithio mewn partneriaeth â chyfarwyddwyr, uwch dimau arweinyddol a rheolwyr wrth ddylunio gofynion gweithlu yn y dyfodol, asesu gallu, cynllunio olyniaeth, a chefnogi gweithredu mentrau amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Cefnogi newid, gan gynnwys ailstrwythuro, dylunio sefydliadol, a gweithgareddau trawsnewid, trwy gynllunio, cynghori, gweithredu a gwerthuso mentrau yn rhagweithiol, ac ymgynghori'n llawn â chynrychiolwyr undebau a gweithwyr cydnabyddedig.
  • Cefnogi cyfarwyddwyr ac uwch dimau arweinyddiaeth i nodi a chynllunio ymyriadau ymgysylltu a chadw gweithwyr, gan hyrwyddo gallu.
  • Sefydlu diwylliant o berfformio, hyfforddiant, a bwydo yn ôl i reolwyr i wella eu gallu a'u cyfrifoldeb.
  • Arwain, rheoli, ysgogi, a hyfforddi tîm o Bartneriaid Busnes Pobl a chydweithwyr eraill yn unol â'r cyfarwyddiadau, gan nodi cyfleoedd ar gyfer eu datblygiad a'u gwella.
  • Arwain ar brosiectau a mentrau sy'n gysylltiedig â phobl, cydweithio â'r sefydliad ehangach ac adrannau eraill o fewn y tîm Pobl
  • Hyrwyddo ac ymwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan annatod o arferion a diwylliant sefydliadol.
  • Gweithio gyda'r Cynghorydd Llesiant i nodi ac ymgorffori egwyddorion a phrosesau lles ledled y sefydliad.
  • Datblygu a diweddaru polisïau cysylltiedig â phobl, gan ystyried cyfraith achos ac arferion gorau, bod yn ffynhonnell arweiniad arbenigol i'r sefydliad a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus.
  • Rheoli ystod eang o waith achos cysylltiadau gweithwyr cymhleth mewn modd effeithiol, pragmatig ac amserol, gan ddarparu cymorth a chyngor i reolwyr, asesu risg, a chymhwyso cyngor cyfreithiol ac iechyd galwedigaethol.
  • Ymgorffori egwyddorion ac arfer ymarfer adferol er mwyn llywio newid diwylliant ledled y sefydliad.
  • Ymdrin â hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth hyd at y casgliad.
  • Archwilio atebion ar gyfer datrys achosion cysylltiadau cyflogeion chyflwyno achosion busnes i'w hawdurdodi gan y Swyddfa Gartref a swyddfa'r Cabinet ar gyfer cynlluniau diswyddo yn ôl yr angen.
  • Cefnogi ymchwiliadau i faterion sy'n gysylltiedig â staff, cynghori ar y broses a chyfreithlondeb
  • Cynllunio a goruchwylio'r broses recriwtio mewn meysydd busnes dynodedig, mapio amserlenni, a nodi risgiau a materion.
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm recriwtio i ddatblygu arferion gorau a chynyddu effeithlonrwydd wrth recriwtio staff o'r radd flaenaf.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar ddylunio swyddi a chymryd rhan mewn paneli gwerthuso swyddi.
  • Gweithio ar y cyd â pherchennog asedau gwybodaeth i adolygu a llofnodi ceisiadau rhyddid gwybodaeth a mynediad at ddata gan y testun, gan uwchgyfeirio eitemau lle bo hynny'n berthnasol.
  • Meithrin perthynas waith agos â'r gyfarwyddiaeth Pobl ehangach, gan nodi gwelliannau ynghylch systemau a pholisïau cysylltiedig ac ati, a gweithio ar y cyd i roi newidiadau ar waith. 

Yr Ymgeisydd Delfrydol

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Cymwysterau:

  • Addysg i lefel gradd, neu brofiad cyfatebol, gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn Adnoddau Dynol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.  
  • Cymhwyster CIPD lefel 7. 

Gwybodaeth:

  • Gwybodaeth gynhwysfawr am ddeddfwriaeth cyflogaeth a'r defnydd ymarferol ohoni yn y gweithle.
  • Gwybodaeth helaeth am arferion gorau wrth drin pobl.
  • Gwybodaeth am bolisïau’n ymwneud â’r gweithlu a chynllunio olyniaeth.
  • Gwybodaeth am fethodolegau rheoli newid a chyflawni newid yn effeithiol.

Profiad: 

  • Profiad sylweddol o bartneriaeth busnes mewn amgylchedd amlswyddogaethol deinamig.
  • Profiad o gymhwyso cyfraith cyflogaeth yn bragmatig wrth ymdrin â chysylltiadau cymhleth â gweithwyr, adnoddau, rheoli newid a materion rheoli perfformiad.
  • Hanes da o ddarparu cyngor pobl sy'n gredadwy ac arbenigol i dimau rheolwyr ac arweinyddiaeth mewn maes cymhleth.
  • Profiad o drafod ac ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig a neu gyrff cynrychioliadol staff.
  • Hanes o ddylunio, cyflwyno a gweithredu atebion, polisïau a gweithdrefnau pobl wedi'u teilwra.
  • Yn gallu gweithio ar draws sawl safle, gan gynnwys teithio ac aros dros nos yn achlysurol. 

Dymunol:

  • Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus, nid er elw neu elusennol.


Sgiliau:

  • Ymwybyddiaeth strategol a'r gallu i gymhwyso hyn i heriau gweithredol i gael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau busnes.
  • Y gallu i reoli a dylanwadu'n hyderus ar ystod amrywiol a heriol o uwch randdeiliaid.
  • Y gallu i nodi ac asesu risgiau, lliniaru'r rhain lle bo hynny'n bosibl a dod i benderfyniadau cytbwys. 
  • Y gallu i arwain, ysgogi, hyfforddi a rheoli tîm o ymarferwyr pobl.
  • Cyfathrebwr rhagorol, gyda sgiliau annog a dylanwadu cryf.
  • Y gallu i ddadansoddi data a chymhwyso dadansoddeg i wella cyflwyniad busnes.
  • Ymwybyddiaeth fasnachol gref, gyda'r gallu i gydbwyso llwyddiant masnachol â gwerthoedd sefydliadol.

Sgiliau TG cryf, gyda'r gallu i fewnbynnu, adrodd a dehongli data o Systemau Gwybodaeth Adnoddau Dynol a systemau recriwtio / olrhain ymgeiswyr

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS 

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)

Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:

  • Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
  • Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau

Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk


Disgrifiad o'r Pecyn

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu. 


Am y cwmni

Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn. 

  • Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar. 
  • Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector. 
  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.

Rydym yn defnyddio cwcis i sichrau ein bod yn rhoi’r profiad gorau posibl i chi ar ein gwefan. Os hoffech barhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn cymryd eich bod yn hapus i dderbyn pob cwci. Dysgwch mwy