Skip to content

Rheolwr Iechyd a Diogelwch -Contract cyfnod penodol tan 24 Awst 2026 (yn cynnwyabsenoldeb am resymau teuluol)

Cyflwyniad i'r Swydd

Cyflwyniad Swydd:

Fel Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cewch eich croesawu i dîm Pobl dynamig a chynhwysol sy'n gweithio i ddarparu cymorth ac arweiniad ar amrywiaeth o brotocolau Iechyd a Diogelwch. Mae IOPC ar daith i ddatblygu ei ddiwylliant, ei safbwyntiau a'i ethos i gefnogi canlyniadau craidd y sefydliad a dyma eich cyfle i ymuno â byd llawn amrywiaeth Iechyd a Diogelwch IOPC, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich meddylfryd a'ch dulliau o gyfrannu at wella system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. 

Prif bwrpas y rôl hon yw darparu cyngor ac arweiniad manwl i'r Fforwm Iechyd a Diogelwch a'r Bwrdd Sicrwydd Effaith ar Bobl a Chynllunio'r Gweithlu a gweithio gydag aelodau staff i oruchwylio'r broses o weithredu gofynion deddfwriaethol ac arfer gorau mewn perthynas ag iechyd a diogelwch ar draws IOPC. Byddwch yn Rheolwr Llinell ar y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch hefyd ac yn ei gefnogi. Bydd y rôl yn cynnwys cynnal a chadw'r system rheoli iechyd a diogelwch, paratoi deunyddiau hyfforddi addas a chyflwyno sesiynau hyfforddi staff a gweithredu'r Cynllun Blynyddol a'r Strategaeth Cyfathrebu Iechyd a Diogelwch. 

Ar hyn o bryd mae gan IOPC saith swyddfa - Caerdydd, Croydon, Birmingham, Llundain, Sale, Wakefield a Warrington. Bydd y rôl hon yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Pobl a bydd yn cynnwys cydweithredu ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys staff Ystadau/Rheoli Cyfleusterau, staff Gweithrediadau, aelodau Pwyllgor, a staff amrywiol eraill ym mhob safle. Efallai y bydd angen rhyngweithio â chyflenwyr allanol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Felly, bydd hyn yn rhoi cyfle i chi deithio o bryd i'w gilydd i feithrin y cysylltiadau hyn.

Y broses asesu

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant. I ddysgu mwy, cliciwch yma. Byddwn yn eich asesu yn erbyn ymddygiadau Uwch-swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Sifil yn ystod y broses ymgeisio:

  • Arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu a Dylanwadu 

Trwy gydol y broses recriwtio byddwn yn asesu eich Profiad, eich Cryfderau, eich Sgiliau Technegol a'ch Gwerthoedd.  

Amcangyfrifir y bydd dyddiadau asesu a chyfweld disgwyliedig yn digwydd yn gynnar ym mis Gorffennaf 2025. 

Cyfrifoldeb y Rôl

Prif Gyfrifoldebau 

  • Fel y person cymwys ar gyfer iechyd a diogelwch, darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r tîm Uwch-reolwyr ar ddeddfwriaeth berthnasol a gweithredu polisi, cynllun blynyddol a strategaeth gyfathrebu iechyd a diogelwch IOPC.
  • Cynghori a chefnogi'r holl staff ar faterion iechyd a diogelwch
  • Cefnogi'r Pennaeth Gwasanaethau Pobl drwy ddatblygu systemau i reoli ac adrodd gwybodaeth am faterion rheoli a pherfformiad Iechyd a Diogelwch a fydd yn caniatáu i uwch-reolwyr reoli'n ddiogel
  • Gweithredu fel Rheolwr diogelwch tân cymwys ar gyfer IOPC, (o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), 2005)
  • Datblygu a gweithredu polisïau iechyd a diogelwch, dogfennau cysylltiedig a chanllawiau ategol IOPC er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
  • Cefnogi Pennaeth Gwasanaethau Pobl wrth fonitro ac archwilio gwaith rheoli iechyd a diogelwch yn IOPC
  • Monitro adroddiadau o ddamweiniau a digwyddiadau a digwyddiadau fu bron â digwydd er mwyn nodi tueddiadau, ymchwilio i ddamweiniau, digwyddiadau a digwyddiadau fu bron â digwydd, fel y bo'n briodol, gan ddarparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer camau unioni ac atal angenrheidiol
  • Rheoli ymchwiliadau i ddigwyddiadau gan sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn a chymryd y camau unioni ac atal angenrheidiol
  • Cysylltu ag awdurdodau gorfodi iechyd a diogelwch (HSE, Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub) a'n Hundebau Llafur ar faterion iechyd a diogelwch, yn ôl yr angen
  • Sicrhau bod rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant a datblygu ar gyfer iechyd a diogelwch ar draws IOPC, gan gynnwys darparu platfformau e-ddysgu
  • Sicrhau bod cynrychiolwyr/unigolion penodedig iechyd a diogelwch ar draws y sefydliad yn cael hyfforddiant digonol, a chefnogi swyddogion cymorth cyntaf, aseswyr Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) a wardeniaid gadael mewn argyfwng
  • Drafftio adroddiadau iechyd a diogelwch chwarterol i'r Grŵp Sicrwydd Cynllunio'r Gweithlu a’r Effaith ar Bobl a'r Fforwm Iechyd a Diogelwch.
  • Drafftio a chyflwyno'r adroddiad iechyd a diogelwch blynyddol i'r Fforwm Iechyd a Diogelwch, y Bwrdd Rheoli a'r Cyngor Staff 
  • Mynychu gwahanol bwyllgorau a byrddau fel cynghorydd ar faterion iechyd a diogelwch, gan gynnwys gweithredu fel y swyddog sy'n bresennol yn y Fforwm Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
  • Cefnogi’r Pennaeth Gwasanaethau Pobl drwy gynnal rhaglenni monitro, archwilio a mesur perfformiad sy'n ddigonol i sicrhau'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Bwrdd Unedol a'r Bwrdd Rheoli bod trefniadau rheoli iechyd a diogelwch yn briodol, yn gadarn ac yn cydymffurfio
  • Sicrhau bod polisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch IOPC yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a chanllawiau arfer da a sefydlwyd gan yr HSE a chyrff perthnasol eraill
  • Cydweithio â Phennaeth Gwasanaethau Pobl gan gynghori ar faterion sy'n dod i'r amlwg a newidiadau deddfwriaethol a allai gael effaith sylweddol ar IOPC
  • Gweithredu fel prif gyswllt IOPC ag asiantaethau gorfodi iechyd a diogelwch a bod yn gyfrifol am gydymffurfio â gofynion adrodd statudol Rheoliadau Adrodd ar Glefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013
  • Asesu goblygiadau iechyd a diogelwch prosiectau cyfalaf ac adnewyddu, gan annog a hwyluso dileu a rheoli risgiau trwy ddylunio
  • Cynghori'r timau Rheoli Cyfleusterau ar ofynion Rheoliadau Adeiladu, Dylunio a Rheoli (CDM) 2015
  • Sicrhau bod holl swyddfeydd rhanbarthol IOPC yn cydymffurfio â chydymffurfiaeth statudol a deddfwriaeth reoleiddiol
  • Ymgymryd â rhaglen Archwilio Iechyd a Diogelwch IOPC 
  • Monitro a gwella'n barhaus y system rheoli iechyd a diogelwch 
  • Monitro'r Cofrestrau Risg Iechyd a Diogelwch Adrannau ar y cyd ag uwch-reolwyr pob adran
  • Sicrhau bod asesiadau risg ar gyfer swyddfeydd yn cael eu diweddaru
  • Cynnal ein system rheoli fflyd, ein rhaglenni asesu risg a'n rhaglenni diogelwch personol
  • Cynllunio a chynnal digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer diwrnod ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch ac wythnos ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch
  • Ymgysylltu â rhwydweithiau staff a chyflwyno mewnbynnau iechyd a diogelwch ar gais neu ar ôl dysgu sefydliadol
  • Datblygu'r gyfres o Sgyrsiau Iechyd a Diogelwch
  • Cynnal a diweddaru, yn ôl yr angen, y wybodaeth iechyd a diogelwch a gyhoeddir ar y fewnrwyd
  • Cysylltu â'r timau cyfreithiol ynghylch hawliadau atebolrwydd gwirioneddol a phosibl
  • Cynnal DPP proffesiynol er mwyn sicrhau cymhwysedd
  • Sicrhau bod asesiadau risg cadarn ar waith ar gyfer IOPC. Mae'r rhain yn cynnwys y swyddfa gyffredinol, cymorth cyntaf, asesiadau risg tân, pobl ifanc, gweithio unigol a mamau newydd a menywod beichiog
  • Ymgymryd â darpariaeth monitro hylendid galwedigaethol pan fo angen. 
  • Cydweithio â'r tîm cyfathrebu mewnol i gyflwyno'r negeseuon iechyd a diogelwch angenrheidiol, ymgyrchoedd a chodi ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar draws y sefydliad
  • Cynnal asesiadau risg salwch yn ôl yr angen
  • Goruchwylio a chefnogi'r Aseswyr DSE i gynnal asesiadau a darparu offer angenrheidiol
  • Cefnogi'r tîm Partneriaeth Pobl i gynghori ar offer angenrheidiol ar gyfer addasiadau rhesymol
  • Ymgymryd â chyfrifoldebau Rheolwr Llinell ar gyfer y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch
  • Cynorthwyo'r tîm caffael i adnewyddu unrhyw gontractau iechyd a diogelwch a chanfod cyflenwyr/offer newydd lle bo angen.

DS: Ar gyfer y swydd bydd yn ofynnol:

  • Gweithio y tu allan i oriau o bryd i'w gilydd o bosibl 
  • Teithio rhwng swyddfeydd IOPC

Yr Ymgeisydd Delfrydol

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

PROFIAD HANFODOL

  • Profiad o ddarparu cyngor a sicrwydd iechyd a diogelwch ar lefel dactegol.
  • Profiad o wahanol systemau rheoli iechyd a diogelwch yng nghyd-destun y DU.
  • Profiad o ymdrin â staff ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig yn fewnol ac yn allanol
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth eang o staff
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra a pharatoi deunyddiau cymorth hyfforddi
  • Profiad o reoli iechyd a diogelwch mewn sefydliad mawr, yn ddelfrydol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol a sefydliad aml-safle
  • Profiad o arwain archwiliad iechyd a diogelwch
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu systemau adrodd effeithiol.
  • Sgiliau rheoli prosiect
  • Profiad o ddrafftio polisïau
  • Profiad o lunio strategaethau

 

CYMWYSTERAU TECHNEGOL HANFODOL

  • Diploma Cenedlaethol/Rhyngwladol NEBOSH neu gyfwerth
  • Gradd IOSH neu uwch
  • Cymhwyster Diogelwch Tân neu brofiad cyfatebol
  • Cymhwyster prif archwilydd iechyd a diogelwch neu hanes o archwilio mewn sefydliad mawr.
  • Tystiolaeth o sgiliau ysgrifennu a chyflwyno rhagorol

 

TECHNEGOL DYMUNOL 

  • Cymhwyster hyfforddi'r hyfforddwr
  • Profiad rheoli llinell
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
  • Aelodaeth siartredig o IOSH

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS 

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)

Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:

  • Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
  • Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau

Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk

Disgrifiad o'r Pecyn

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Er na allwn warantu contract hirach neu fwy parhaol ar hyn o bryd, os gellir ymestyn y rôl neu ei gwneud yn un barhaol, gall deiliad llwyddiannus y swydd gael cynnig y rôl yn gyntaf heb gyfweliad ychwanegol.

Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod  i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu. 

#IND

Am y cwmni

Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn. 

  • Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar. 
  • Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector. 
  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.
Gwneud cais

Rydym yn defnyddio cwcis i sichrau ein bod yn rhoi’r profiad gorau posibl i chi ar ein gwefan. Os hoffech barhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn cymryd eich bod yn hapus i dderbyn pob cwci. Dysgwch mwy