Cyflwyniad i'r Swydd
Cyflwyniad Swydd:
Fel Rheolwr Ymchwiliadau – Busnes Craidd, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau dynamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar bob math o ymchwiliadau yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Byddwch yn pennu cyfeiriad ymchwiliadau, yn deall capasiti ac yn gwneud penderfyniadau ar achosion.
Gyda'r Rheolwr Ymchwiliadau - Rheolwr Perfformiad ac Adnoddau ac Ymchwiliadau - Busnes Craidd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i dimau o ymchwilwyr, sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu darparu ac arddangos ein gwerthoedd ym mhob agwedd ar eich rôl.
Bydd gennych gyfrifoldebau rheoli llinell am dîm o Arweinwyr Tîm Ymchwiliadau - Busnes Craidd, a byddwch yn atebol am ansawdd, prydlondeb ac effeithlonrwydd ymchwiliadau.
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam ymgeisio, byddwn yn eich asesu yn erbyn ymddygiadau Lefel Graddfa 6 yn ystod y broses ddewis.
Trwy gydol y broses recriwtio byddwn hefyd yn asesu eich Profiad, Cryfderau a Gwerthoedd.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau Datganiad Addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.
Amcangyfrifir i ddyddiadau asesu a chyfweld ddigwydd yn ystod yr wythnosau sy’n dechrau 4 Awst 2025 a 11 Awst 2025.
Cyfrifoldeb y Rôl
- Profiad profedig o ymchwilio neu arwain ymchwiliadau.
- Barn ddoeth a’r gallu i wneud penderfyniadau proffil uchel.
- Y gallu i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol mewn amgylchedd heriol gyda blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd.
- Profiad o yrru timau i gyflawni lefelau uchel o berfformiad a gwelliant parhaus.
- Profiad profedig mewn mentora, hyfforddi a datblygu aelodau tîm, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus a thwf proffesiynol.
Cyfeiriwch at y Swydd-ddisgrifiad am fanylion llawn y swydd
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
Profiad
- Profiad profedig o arwain a rheoli timau mewn ymchwiliadau cymhleth a phroffil uchel, yn ddelfrydol o fewn cyd-destun rheoleiddio, goruchwylio neu sector cyhoeddus.
- Hanes cryf o ddarparu cyfeiriad strategol i sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, annibynnol a chadarn yn cael eu cyflawni.
- Profiad o sbarduno timau i gyflawni lefelau uchel o berfformiad a gwelliant parhaus.
- Profiad profedig o ymchwilio neu arwain ymchwiliadau.
- Dangos gallu i oruchwylio a chyfarwyddo timau, gan gynnwys cynllunio gweithlu, dyrannu adnoddau a rheoli blaenoriaethau ymchwilio.
- Profiad mewn rheoli ariannol; gan gynnwys cyllidebu a rheoli costau.
- Profiad profedig o fethodoleg ac egwyddorion ymchwiliadau a gymhwysir i ymchwiliadau cymhleth, mawr a heriol.
- Profiad o weithio fel rhan o uwch dîm rheoli i ddatblygu a gweithredu'r weledigaeth strategol ar gyfer swyddogaeth neu sefydliad.
- Arweinydd profiadol gyda hanes o adeiladu timau gweithredol perfformiad uchel mewn amgylchedd cymhleth.
- Profiad o reoli datgeliad mewn ymchwiliadau cymhleth
- Profiad o arwain timau trwy newid sylweddol, ymgysylltu ac ysgogi staff i groesawu ffyrdd newydd o weithio.
Dymunol:
- Profiad o weithio mewn strwythur rheoli matrics.
- Trwydded yrru yn ddilys yng Nghymru a Lloegr.
Sgiliau a Galluoedd
- Gallu deallusol rhagorol, a set sgiliau datblygedig iawn i ddadansoddi deddfwriaeth gymhleth a'i chymhwyso i achosion priodol.
- Y gallu i reoli, ysgogi a datblygu pobl.
- Y gallu i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol mewn amgylchedd heriol gyda blaenoriaethau sy’n cystadlu â’I gilydd.
- Lefelau uchel o hygrededd yn ogystal â'r gallu i gyfiawnhau penderfyniadau a wneir, gan gynnwys mewn lleoliad cyfreithiol.
- Barn ddoeth a’r gallu i wneud penderfyniadau proffil uchel.
- Sgiliau gwneud penderfyniadau datblygedig iawn.
- Tystiolaeth o sgiliau dadansoddol ac ysgrifennu adroddiadau rhagorol; gallu i gyrraedd a dogfennu penderfyniadau clir, rhesymegol, seiliedig ar dystiolaeth ac annibynnol yn seiliedig ar ddadansoddiad o wybodaeth sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r fei.
- Sgiliau llafar, ysgrifenedig a chyflwyno datblygedig iawn.
- Sgiliau dylanwadu a negodi rhagorol a'r gallu i berswadio trwy hygrededd personol.
- Sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i drafod a chynnal perthynas dda ag uwch swyddogion ym mhob maes o fywyd cyhoeddus.
- Profiad o gefnogi staff sy'n gweithio mewn amgylchedd gyda chraffu sylweddol, her a deunydd a allai fod yn emosiynol.
- Meddyliwr dadansoddol gyda'r sgiliau a'r gallu i asesu achosion cymhleth, nodi materion allweddol a datblygu atebion sy'n mynd i'r afael ag anghenion.
- Profiad profedig mewn mentora, hyfforddi a datblygu aelodau tîm, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus a thwf proffesiynol.
Dymunol:
- Dealltwriaeth o Blismona yn y DU.
Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.
Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS
National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)
Addasiadau Rhesymol:
Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.
Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:
- Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
- Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
- Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau
Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk
Disgrifiad o'r Pecyn
Yr hyn rydym yn ei Gynnig:
- 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
- Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
- Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
- Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
- Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
- Cynllun Prydlesu Car
- Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
- Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
- Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
- Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign
Ystyriaeth Emosiynol:
Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.
O ystyried natur y gwaith, mae’n bosibl hefyd y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.
Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.
Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.
Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.
Am y cwmni
Byddwch chi'ch hun:
Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.
Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.
- Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar.
- Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector.
- Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
- Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.